MAE Mudiad Meithrin mewn partneriaeth â Portal Training wedi lansio cynllun mentora newydd sbon o’r enw Meithrin Gyrfa.

Bwriad Meithrin Gyrfa yw arfogi ac uwchsgilio unigolion i fedru datblygu eu gyrfaoedd gan dynnu ar brofiadau, gwybodaeth a chysylltiadau Mudiad Meithrin.

Maent am ddarparu cyfleoedd i unigolion sydd:

· eisiau magu hyder yn eu sgiliau Cymraeg er mwyn gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg

· ar drobwynt yn eu gyrfa ac am ddatblygu eu hunain, ac ysbrydoli eraill

Maent felly yn annog unigolion o bob oedran a chefndir i wneud cais i fod yn rhan o’r cynllun, a bod yn arweinyddion a modelau rôl positif i eraill.

Meddai Helen Williams, o’r Mudiad Meithrin: “Mae Meithrin Gyrfa yma i gefnogi unrhyw un sydd am weithio’n hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Mae’r cynllun yn rhan o weledigaeth ehangach y Mudiad i gefnogi’r nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a chyfrannu tuag at economi ein cymunedau lleol i annog unigolion fynd am swydd yn y sector Gymraeg.”

Drwy’r cynllun 4 mis yma bydd 20 o ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cefnogaeth gan fentoriaid a hyfforddwyr profiadol i:

• greu cynllun datblygu personol

• adnabod cyfleoedd i loywi sgiliau iaith llafar ac ysgrifenedig

• helpu i greu argraff wrth ysgrifennu ffurflen gais

• godi hyder mewn cyfweliad

• ddarparu sesiynau hyfforddi a mentora 1:1

• sicrhau iechyd a lles yr unigolyn

I wneud cais am gael bod yn rhan o Feithrin Gyrfa, rhaid cwblhau ffurflen datgan diddordeb erbyn Ionawr 28.

Am wybodaeth bellach ewch i www.meithrin.cymru/academi neu e-bostiwch helen.williams@meithrin.cymru