MAE Brwydr y Bandiau yn ôl, ac yn fwy nac erioed!

Mae Mentrau Iaith Cymru a rhaglen Radio Cymru C2 yn chwilio am dalent newydd Cymru!
 

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei chynnal ar y cyd rhwng Mentrau Iaith Cymru ac C2 Radio Cymru, ac yn un o’r cystadleuaethau pwysicaf yn y sîn gerddoriaeth yng Nghymru i ddarganfod talent y dyfodol.
 

Caiff bandiau neu artistiaid o unrhyw arddull gystadlu, cyn belled a’u bod yn gymwys i wneud hynny yn unol a’r rheolau.
 

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal ddechrau 2010, ac os ydych chi am gystadlu bydd angen i chi ddatgan eich diddordeb cyn canol Mis Ionawr.
 

Mae’r gystadleuaeth yn agored i grwpiau (o nifer resymol) neu unigolyn sydd yn byw yng Nghymru, ac sydd yn canu yn unrhyw arddull roc/ hip-hop/ gwerin/ acwstig/ jazz/ pop/ gwlad/ blws ayb.
 

Rhaid i’r unigolyn neu o leiaf hanner yr aelodau mewn grwp fod yn 21 mlwydd oed neu iau, a rhaid i bob unigolyn fod dros 16 mlwydd oed.
 

Nid yw’r grwpiau neu’r unigolyn wedi rhyddhau albwm, sengl neu EP yn fasnachol.
Gall y rhai sydd wedi cyfrannu traciau at CDs aml gyfrannog gystadlu.
 

Mae angen i fandiau neu unigolion gysylltu gyda’u Menter Iaith leol erbyn canol Ionawr 2010, drwy ffonio, e-bostio neu anfon llythyr.
 

Mae rhestr llawn o Fentrau ar wefan www.mentrau-iaith.com
 

Mae’n rhaid i bob band chwarae tair cân Gymraeg.
 

Mae’n rhaid i o leiaf un gân fod yn gwbl wreiddiol, ond caniateir i’r gan gyntaf a berfformir fod yn ‘cover version’ o unrhyw gan gyda geiriau Cymraeg.
 

Bydd pedair rownd i’r gystadleuaeth:

Rownd 1 (Y rowndiau sirol)
Yn y rowndiau sirol mae cystadleuwyr yn perfformio tair cân yn fyw ac yn cystadlu yn erbyn cystadleuwyr eraill o’r un sir.
Bydd y ddau fand/unigolyn buddugol o bob sir yn mynd ymlaen i’r rownd rhanbarthol.
Y Mentrau Iaith sydd yn trefnu’r rowndiau sirol, a byddant yn cael eu cynnal rhwng Ionawr a dechrau Chwefror.
Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis gan feirniaid diduedd ar sail yr alawon, y geiriau, doniau cerddorol a’r argraff gyffredinol a wnaeth y perfformiad.

Rownd 2 (Y rowndiau rhanbarthol)
Yn y rowndiau rhanbarthol mae’r bandiau/unigolyn yn perfformio tair cân yn fyw ac yn cystadlu yn erbyn bandiau/unigolion eraill o’r un rhanbarth.
Y rhanbarthau yw y Gogledd, y Canolbarth, y De Ddwyrain a’r Dde Orllewin
Mae’r rowndiau rhanbarthol yn cael eu cynnal yn ystod mis Chwefror.
Mae tri band llwyddiannus o bob rhanbarth yn mynd i rownd 3 a bydd yr enillwyr yn cael eu dewis, fel yn rownd 1, gan feirniaid diduedd.

Rownd 3 (Y rownd gynderfynol)
Mae rownd 3 yn cael ei darlledu ar raglen C2 ar BBC Radio Cymru ar Fawrth 23, 24 a 25, rhwng 8pm a 10pm.
Darlledir caneuon o ddewis y cystadleuwyr a recordiwyd yn fyw yn ystod y rowndiau rhanbarthol.
Darlledir nifer o’r caneuon bob nos ar C2, a bydd y drefn wedi ei phenderfynu ar hap.
Bydd tri beirniad wedi eu penodi gan dim cynhyrchu C2 yn bwrw llinyn mesur ar y perfformiadau.
Y gyNeidfa fydd yn penderfynu pwy sydd yn ennill yn y rownd hon dwy bleidlais ffon a neges testun.
Bydd yr enillydd bob nos yn ennill yr hawl i gystadlu yn y rownd derfynol.

Rownd 4 (Y rownd derfynol)
Bydd bandiau/unigolion sydd yn cyrraedd y rownd derfynol yn cael y cyfle i fynd i stiwdio recordio am un diwrnod i recordio cân (sef y gân a ddarlledwyd yn rownd 3).
Bydd y rownd derfynol yn cael ei darlledu ar raglen C2 ar Radio Cymru rhwng 8pm a 10pm ar nos Fercher, Ebrill 21.

Bydd y grwp/unigolyn sy’n ennill yn cael cytundeb i recordio sesiwn i C2, ymddangos ar raglenni teledu Mosgito ar S4C, perfformio mewn gwyl fawr genedlaethol megis Maes B yn yr Eisteddfod Genedlaethol, cynnig i chwarae mewn gigs Mentrau Iaith Cymru a cyfle i berfformio ar daith ysgolion C2 2010.
 

Os ydych yn awyddus i gystadlu, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch gyda Menter Iaith Sir Ddinbych ar 01745 812822, neu e-bostiwch c2@bbc.co.uk
 

Am fwy o wybodaeth ewch i http://www.bbc.co.uk/radiocymru/c2/safle/brwydrybandiau/2010.shtml